|
|
Ymchwil / Dolenni
Mae rhaglen o ymchwil parhaus wedi’i gweu i bob un o weithgareddau EDC. Mae ein gofynion ymchwil yn amrywiol ac yn ymestyn ar draws yr ystod gyfan, o’r sylfaenol a’r strategol hyd at ymchwil cymhwysol.
Drwy rannu’r ymchwil sylfaenol a strategol, mae EDC yn ceisio hwyluso gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth a:
- chynnal y dadansoddiad diweddaraf o weithgaredd rhyngwladol, gan gynnwys datblygiadau deddfwriaethol
- cefnogi gweithgareddau hyrwyddo drwy bapurau strategol, cyhoeddiadau o fyd diwydiant a deunyddiau hyrwyddo EDC
- cynhyrchu a chyflwyno papurau academaidd, papurau cynadleddau a phapurau canllaw
- parhau i fod yn agored i gyfleoedd ymchwil cydweithredol gyda rhanddeiliaid cenedlaethol a rhyngwladol
|