|
|
Newyddion / Digwyddiadau
Meddwl mewn ffordd newydd
Mae EDC yn dîm creadigol sy’n credu’n angerddol ym manteision ecoddylunio. Maen nhw’n ceisio gwneud gwir wahaniaeth a chreu cyfleoedd mewn ffyrdd rhagweithiol i rannu gwybodaeth a phrofiad yn agored.
Mae EDC yn cyflwyno achos busnes a pholisi o blaid ecoddylunio drwy ddigwyddiadau, cyflwyniadau arweiniol mewn seminarau cenedlaethol a rhyngwladol, drwy fod yn bresennol mewn digwyddiadau a chyfarfodydd rhwydweithio wedi’u targedu, erthyglau, cyhoeddiadau ymchwil, rhwydweithiau a gwefan EDC.
Mae tîm EDC yn chwilio’n barhaus am gyfleoedd i gyfnewid syniadau arloesol newydd ac ymarferol.
Os ydych am i EDC roi anerchiad arweiniol neu am gysylltu â ni ynglŷn ag ymholiad cyfryngol a defnyddio logo a delweddau EDC, wnewch chi ebostio ni ar info@edcw.org.
|