Dyma fersiwn Gymraeg gwefan EDC.
English

Prosiectau Arddangos

Dros gyfnod o flwyddyn bu EDC yn gweithio’n agos â chwmnïau’n cynrychioli pedwar sector blaenoriaeth Llywodraeth y Cynulliad i gael gweu ecoddylunio a syniadau cylch oes i’w harferion gweithio.

Dyma drosolwg o’r pedwar cwmni a ddewiswyd ynghyd â disgrifiad o’u prosiectau:

 

Global Laser Limited


Sector:
cyfarpar trydanol ac electronig

Trosolwg o’r cwmni: Mae Global Laser yn arwain y farchnad o ran dylunio a chynhyrchu modiwlau deuod laser arbenigol. Nod y cwmni yw arwain y ffordd o ran dylunio modiwlau deuod laser sy’n well i’r amgylchedd.

Cwmpas y prosiect: Meincnodi cynhyrchion (drwy asesiad cylch oes), cyfathrebiadau ar gyfer datblygu cynhyrchion newydd (e.e. modiwl deuod laser sy’n ynni-effeithlon) a strategaeth y busnes yn y dyfodol.

 

Orangebox Limited


Sector:
Gweithgynhyrchu

Trosolwg o’r cwmni: Mae Orangebox yn arwain y farchnad yn y DU o ran ymchwilio, datblygu, cynhyrchu a gwasanaethu seddau ar gyfer yr amgylchedd masnachol. Nod y cwmni yw arwain y ffordd o ran cau dolenni deunyddiau.

Cwmpas y prosiect: Dadansoddi deunyddiau (defnyddio dull o’r crud i’r crud) a strategaeth rheoli diwedd oes yng nghyd-destun datblygu cynhyrchion newydd (cadair dasg).

 

The Knobbly Carrot Organic Food Company


Sector:
Bwyd a diod

Trosolwg o’r cwmni: Mae’r Knobbly Carrot Organic Food Company yn ymrwymedig i greu bwyd organig ffres blasus a gaiff, ble bynnag y mae’n bosib, effaith bositif bob amser ar yr amgylchedd. Nod y cwmni yw dod yn arweinydd yn y farchnad cawl ffres yng Nghymru a chodi’i broffil yn sylweddol ar draws y DU.
Cwmpas y prosiect: Datblygu’r brand a phecynnu newydd yng nghyd-destun y gyfres bresennol o gynhyrchion cawl organig. Datblygu’r strategaeth fusnes yn gyffredinol.

 

G24 Innovations Limited


Sector:
Technoleg garbon isel - Electroneg

Trosolwg o’r cwmni: Nod G24 Innovations yw personoleiddio pŵer yr haul drwy arwain datblygiad marchnad fyd-eang ar gyfer celloedd solar hyblyg ysgafn dros ben.

Cwmpas y prosiect: Cydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol ac asesu cylch oes cynhyrchion yng nghyd-destun datblygu cynhyrchion newydd.


Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0
Dyluniwyd gan www.kutchibok.co.uk
© Y Ganolfan Ecoddylunio 2009