DiwydiantMae angen i Fusnesau Bach a Chanolig eu maint yng Nghymru ddechrau defnyddio ecoddylunio os ydyn nhw’n mynd i barhau i fod yn gystadleuol mewn marchnad fyd-eang sy’n ehangu’n gynyddol. Mae Busnesau Bach a Chanolig yn wynebu rhwystrau mawr wrth iddyn nhw geisio gweithredu ecoddylunio, a hyd yma bu mecanweithiau polisïau a marchnadoedd yn annigonol ar gyfer codi lefel gweithredu ecoddylunio. I gael ymafael yn yr her yma, cynlluniodd a datblygodd EDC Fenter Ecoddylunio a’i nod cyffredinol oedd cynyddu’r defnydd ohono gan Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru. Yn ganolog i weithgareddau Menter Ecoddylunio mewn diwydiant roedd y Pecyn Cymorth Ecoddylunio a ddatblygwyd yn rhan o brosiect arddangos 12 mis o hyd (Medi 2007–Awst 2008) gyda phedwar o Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru. Roedd gorchwylion y prosiectau ecoddylunio masnachol yn cynnwys hwyluso, llywio, hyfforddi, rhwydweithio, rhedeg gweithdai, gwneud ymchwil, mentora a hyfforddi personol er mwyn cefnogi datblygiad cynhyrchion a gwasanaethau gwell i’r amgylchedd ac er mwyn gweu ecoddylunio i strategaethau craidd busnesau. Mae’r cyfnod arddangos wedi’i gwblhau erbyn hyn ac mae EDC wrthi ar hyn o bryd yn ei werthuso. Nod EDC yn y tymor hir yw annog diwydiant i wneud mwy o ddefnydd o ecoddylunio. Darllenwch fwy am y prosiectau arddangos.
Monitro a GwerthusoMae’r pethau a ddysgwyd (drwy’r gwaith hwn) am ddefnyddio ecoddylunio’n ymarferol yn arwyddocaol. Dengys y dystiolaeth gychwynnol i’r Pecyn Cymorth symud y cwmnïau ymhell ymlaen ar eu siwrneiau ecoddylunio. Dangosodd y canlyniadau’n amlwg fod defnyddio ecoddylunio yn beth call o safbwynt busnes ac ymarfer, fel y dangosir yn adborth cyntaf y cwmnïau a’u hallbwn ymarferol. Mae EDC yn cydnabod bod gwerthuso gweithgareddau EDC mewn ffordd gynhwysfawr yn broses dymor hir. Y cam nesaf yw i EDC ymgymryd â gwerthusiad trylwyr o’r prosiectau arddangos a’r broses Pecyn Cymorth Ecoddylunio, a hynny er mwyn deall y gwersi go iawn y mae angen eu dysgu a chynnig arweiniad ac argymhellion fydd yn gynhorthwy i oleuo polisi a chymorth busnes ecoddylunio y tu mewn a’r tu allan i Gymru. Bydd y gwerthuso yma’n cynnwys egluro natur yr allbynnau a’r deilliannau ynghyd â deall yn well y materion sy’n gysylltiedig â gallu cymathol y pedwar cwmni. |