Dyma fersiwn Gymraeg gwefan EDC.
English

Y Tîm

 

Dr Frank O’Connor: Cyfarwyddwr

Magwyd Frank yng nghefn gwlad Iwerddon lle y dechreuodd ei frwdfrydedd mewn materion amgylcheddol a’u perthynas â dylunio yn 1988 gyda’i brosiect cyntaf ar faterion adfer diwedd oes. Oddi ar hyn, bu’n gweithio neu’n ymgynghorydd arbenigol i gwmnïau rhyngwladol, busnesau bach a chanolig, sefydliadau’r llywodraeth, addysg uwch a sefydliadau anllywodraethol mewn ecoddylunio, syniadau cylch oes a materion perthnasol. Sefydlodd Frank y Ganolfan Ecoddylunio (EDC) yn 2006.

Mae gan Frank Radd Baglor mewn Technoleg ac Addysg, Gradd Meistr mewn Gweithgynhyrchu Uwch, Ôl-radd mewn Rheoli a Doethuriaeth mewn Ecoddylunio. Mae ei rolau’n cynnwys Cadeirydd grŵp ffocws CTE Llywodraeth y Cynulliad, Tyst Arbenigol i Bwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi, Ymgynghorydd Technegol i Raglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP), Cadeirydd Cymru Gynhaliol, Ymgynghorydd Rhaglen MSc i Brifysgol Cranfield, Canolwr Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), Beirniad Gwobrau Dylunio IDI ac Ymgynghorydd i Wobrau DME.

Mae Frank wedi cyhoeddi’n helaeth ac wedi traddodi darlithoedd ac anerchiadau a chynnal gweithdai yn y DU a thramor ar ystod eang o faterion oddi ar ganol y 90au. Mae’n credu’n angerddol bod ecoddylunio yn ddylunio da ac yn arfer busnes da.

 

Dr Sohail Hajatdoost: Pennaeth Datblygu Busnes 

Mae Sohail wedi gweithio mewn swyddi uwch ac fel swyddog gweithredol mewn nifer o gwmnïau blaengar yn ogystal ag yn sector y cwmnïau bach a chanolig. Mae ei brofiad a’i wybodaeth diwydiannol yn cynnwys y diwydiant bwyd, fferyllol, gofal iechyd, cynhyrchu dur, electroplatio a dŵr. Bu’n ymgynghorydd i’r EWGRHMM (Gweithgor Ewropeaidd ar Leihau Metelau Trwm mewn Defnyddiau) a bu hefyd yn helpu cwmnïau mawr a chwmnïau bach a chanolig fel ymgynghorydd arbenigol. Mae Sohail yn Gemegydd Siartredig sydd â Doethuriaeth mewn Spectrosgopeg a Thechnegau Uwch ar gyfer Dadansoddi Defnyddiau’n Gemegol. Yn ogystal mae ganddo radd Baglor mewn Cemeg Gymhwysol.

Roedd Sohail yn Rheolwr Gyfarwyddwr Riochem® Ltd cyn ymuno ag EDC yn Bennaeth Datblygu Busnes. Mae ganddo brofiad helaeth yn arwain gwaith newydd ac yn datblygu cynhyrchion ym maes ecoddylunio, a hynny o’r cysyniad gwreiddiol hyd at gynhyrchu a marchnata’r cynnyrch. Hefyd bu’n arwain y gwaith o ddatblygu llawer o brosesau a chynhyrchion diwydiannol gan gynnwys TinyLab®, dadansoddwr dŵr ar-safle sydd wedi ennill medelau Platinwm ac Aur. Mae TinyLab® hefyd yn un o’r enghreifftiau gorau o gynnyrch ecoddylunio a gafodd ei ddatblygu o fewn sector y cwmnïau bach a chanolig.

Mae Sohail yn frwdfrydig iawn dros ecoddylunio a gan ei fod wedi gweithio mewn cwmnïau blaengar ac yn sector y cwmnïau bach a chanolig, mae’n gwybod beth yw’r heriau ym mhob rhan o’r broses o ddatblygu cynnyrch newydd, ei gynhyrchu a mynd ag ef yn llwyddiannus i’r farchnad gystadleuol. Mae Sohail wedi cyhoeddi nifer o bapurau ar bynciau gwyddonol, diwydiannol ac ecoddylunio.

 

Simon O’Rafferty: Uwch Swyddog Ymchwil

Mae Simon yn arwain gwaith ymchwil, gwerthuso ac addysg EDC ers 3 blynedd. Mae’r ymchwil hwn wedi cefnogi’r gwaith o weithredu’r fenter ecoddylunio, prosiectau arddangos diwydiannol, argymhellion polisi cenedlaethol a rhyngwladol a chyfathrebiadau ecoddylunio anarbenigol. Bu’n rhoi hyfforddiant ecoddylunio i ddylunwyr proffesiynol ac i addysgwyr dylunio hefyd.

Hyfforddwyd Simon yn y lle cyntaf yn Iwerddon yn ddylunydd diwydiannol. Mae ganddo radd MSc mewn Datblygu Cynaliadwy ac ar hyn o bryd mae’n gwneud Doethuriaeth yn rhan-amser. Bydd y ddoethuriaeth yma’n asesu sut y gall llywodraethau rhanbarthol gefnogi ecoddylunio a mentrau cynaliadwy mewn busnesau bach a chanolig. Ymhlith ei ddiddordebau ymchwil ar hyn o bryd mae cynhyrchu a defnyddio cynaliadwy, systemau arloesol ac ymyrraeth gan lywodraeth.

Mae gan Simon nifer o gyhoeddiadau ym maes ecoddylunio a bu’n annerch nifer o gynadleddau rhyngwladol. Bu’n gweithio hefyd i sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus yn y DU ac yn Iwerddon ynghyd â gwahanol Gyrff Anllywodraethol gan gynnwys ECO-UNESCO, Rhwydwaith Masnach Deg Iwerddon, a Chymru Gynhaliol.

 

Bibiana Estrada Bonilla: Swyddog Prosiectau

Mae gan Bibiana radd Baglor mewn Peirianneg Ddiwydiannol o Brifysgol Pontificia Javeriana yng Ngholombia ac mae’n siarad Saesneg a Sbaeneg yn rhugl. Mae ei phrofiad yn cynnwys dadansoddi a datblygu gweithdrefnau, llawlyfrau a strategaethau marchnata ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Ngholombia yn ogystal â gweithio ym meysydd gwerthu a marchnata yn y sector adwerthu yn y DU.

Mae Bibiana’n gweithio i EDC oddi ar 2006 ar weinyddu prosiectau, rheoli swyddfa, cydlynu a gweithredu systemau yn ogystal ag arwain y gwaith o gydlynu gweithgareddau cyfathrebu EDC. Mae ganddi ddiddordeb ym maes cynaladwyedd, yn enwedig yn y broses o ddatblygu arferion busnes cynaliadwy.

 

 


Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0
Dyluniwyd gan www.kutchibok.co.uk
© Y Ganolfan Ecoddylunio 2009