Dyma fersiwn Gymraeg gwefan EDC.
English

Symud Ymlaen – Canolfan Arbenigedd

Mae’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol ar gyfer 2008-2011 i alluogi’r Ganolfan Ecoddylunio (EDC) i barhau i weithredu yn ganolfan arbenigedd. 

Bydd EDC, y Ganolfan Arbenigedd mewn ecoddylunio a sefydlwyd yn 2006, yn parhau â’i chenhadaeth o ysbrydoli ac arwain mewn ffordd ragweithiol Lywodraeth y Cynulliad, sefydliadau’r sector cyhoeddus ac addysg uwch er mwyn gweithredu ecoddylunio effeithiol mewn diwydiant yng Nghymru.

Ymhlith y gweithgareddau allweddol mae:

  • Goleuo gwneuthurwyr polisi a datblygiad polisi perthynol
  • Gwneud astudiaethau ar yr arfer gorau’n rhyngwladol
  • Gwneud ymchwil cymhwysol a phrosiectau peilot
  • Annog yn weithredol dull partneriaeth aml-randdeiliaid cydgysylltiedig i gael mynd i’r afael â’r agenda effeithlonrwydd adnoddau, gan gynnwys gweithio tuag at rannu’r un weledigaeth
  • Cynnig cyngor a chymorth i sefydliadau blaenoriaethol y sector cyhoeddus, yn arbennig sefydliadau cymorth busnes, er mwyn sicrhau ymyriad ecoddylunio effeithiol
  • Cefnogi’r broses o weu ecoddylunio i addysg brif-ffrwd
  • Lledaenu casgliadau a chyfathrebu a hybu manteision ecoddylunio
  • Monitro a gwerthuso gweithgareddau EDC yn barhaus

Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0
Dyluniwyd gan www.kutchibok.co.uk
© Y Ganolfan Ecoddylunio 2009