Trosolwg ar Fenter EcoddylunioRhwng Medi 2006 a Medi 2008, roedd EDC yn gyfrifol am ddylunio a chyflawni Menter Ecoddylunio ar gyfer Cymru. Roedd y fenter yn hybu ffyrdd newydd o ddefnyddio adnoddau’n effeithlon drwy hyrwyddo a hwyluso’r newid diwylliannol gofynnol mewn diwydiant, addysg uwch a rhanddeiliaid allweddol eraill. Ymhlith prif weithgareddau’r Fenter roedd: Addysg: Gweithio gydag arweinwyr cyrsiau a darlithwyr o bedair prifysgol yng Nghymru i gael gweu ecoddylunio a chynaladwyedd i addysg dylunio cynhyrchion. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys hyfforddiant a sesiynau rhwydweithio i’r staff, darlithoedd gwadd i’r myfyrwyr, a chyd-ddatblygu pecyn adnoddau addysgu ar ecoddylunio. Polisi: Gweithio gyda Llywodraeth y Cynulliad i gefnogi datblygiad ac adolygiad dogfennau polisi allweddol, gan gynnwys Strategaeth Wastraff Cymru a Strategaeth Swyddi Gwyrdd. Mae EDC wedi ymgynghori a chynghori ar bolisi rhyngwladol a chenedlaethol y DU. Cyfathrebu: Cyfathrebu achos polisi a busnes dros ecoddylunio drwy ddigwyddiadau, rhwydweithiau, gwefan EDC ac e-ddiweddariadau wedi’u targedu i ystod eang o randdeiliaid cenedlaethol a rhyngwladol. |