Ein Gweithgareddau
Beth rydyn ni’n ei wneud?
Drwy arwain mewn ffordd ragweithiol mae rôl allweddol gan EDC yn galluogi, dangos gwerth a chynyddu’r defnydd ar ecoddylunio.
Mae rhaglen waith EDC yn cynnwys:
- dylunio a chyflawni prosiectau a rhaglenni arloesol ac ysbrydoledig sy’n mynd i’r afael â defnyddio ecoddylunio yn fasnachol.
- rhoi gwybodaeth ac arbenigedd gyda’r mwyaf arloesol yn y byd ar ecoddylunio i randdeiliaid yng Nghymru drwy ymchwil cymhwysol a sganio’r arfer gorau’n rhyngwladol. EDC yw’r ‘bont’ rhwng cynhyrchu gwybodaeth ecoddylunio newydd (yn rhyngwladol) a’i ddefnydd masnachol mewn sefydliadau yng Nghymru.
- datblygu rhwydweithiau i gefnogi lledaenu’r wybodaeth a’r profiad ecoddylunio a enillwyd drwy’r prosiectau, y rhaglenni, ymchwil cymhwysol a sganio rhyngwladol.
Beth rydyn ni wedi’i wneud?
Elfen allweddol o waith EDC hyd yma fu dylunio a chyflawni Menter ecoddylunio arloesol. Bu EDC yn gweithio mewn partneriaeth â chynrychiolwyr o fyd diwydiant, sefydliadau’r sector cyhoeddus ac addysg uwch i gael meithrin medrau a galluoedd ecoddylunio. Mynnwch wybod mwy am y Fenter Ecoddylunio.
Darllenwch fwy am ein gwaith gyda Diwydiant
Darllenwch fwy am ein gwaith gyda’r Sector Addysg
Darllenwch fwy am ein Hymchwil
|