|
|
Dyddiadau Allweddol
2003: Cynnig cyntaf ar gyfer menter ecoddylunio yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth y Cynulliad ac Awdurdod Datblygu Cymru gan Frank O’Connor (Dylunio Cymru); wedi’i gysylltu â’r Cynllun Gweithredu Busnes a'r Amgylchedd
2004: Cynnig wedi’i ddiweddaru yn cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth y Cynulliad ac Awdurdod Datblygu Cymru ac arian yn cael ei roi ar gyfer astudiaeth dichonoldeb.
2005 - 2006: Frank O’Connor a Simon O’Rafferty (Dylunio Cymru) yn gwneud astudiaeth dichonoldeb. Roedd yr astudiaeth hon yn cynnwys nifer o weithgareddau allweddol gan gynnwys mapio’r rhwydwaith cefnogi busnesau presennol o bersbectif cylch oes cynnyrch a gwneud astudiaeth o’r arfer gorau o safbwynt rhaglenni ecoddylunio yn rhyngwladol. Gwnaeth yr adroddiad terfynol argymhellion polisi, gosod gweledigaeth ecoddylunio ar gyfer 2020 ac argymell sefydlu canolfan ecoddylunio.
2006: Sefydlu’r Ganolfan Ecoddylunio (EDC) yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i ddatblygu cynaliadwy, â thîm o bedwar i ddechrau.
2006: Lansio Menter Ecoddylunio. Roedd y Fenter yn cynnwys nifer o weithgareddau megis cefnogi ecoddylunio mewn Addysg Uwch, hyrwyddo’r arfer gorau ym maes ecoddylunio a rhedeg pedwar prosiect arddangos ar gyfer diwydiant.
2007: Lansio Pecyn Cymorth Ecoddylunio yn cynnwys pedwar prosiect arddangos ar gyfer diwydiant yn rhedeg dros gyfnod o 12 mis.
2007: EDC yn cynhyrchu ei adroddiad blynyddol cyntaf ac yn lansio ei gwefan.
2008: Dynodwyd EDC yn Ganolfan Arbenigedd. Cwblhau cyfnod arddangos Menter ecoddylunio. EDC yn dechrau gwerthuso a hyrwyddo’r gwersi a ddysgwyd.
I gael dysgu mwy am y ffordd y byddwn yn symud ymlaen cliciwch yma.
|