Beth yw Ecoddylunio?Dylunio yw’r ffordd ymarferol y bydd asedau creadigol cwmni, sy’n angenrheidiol ar gyfer arloesi, yn cael eu sianelu er mwyn sicrhau mantais gystadleuol. Mae mwy a mwy o dystiolaeth ar gael sy’n cysylltu dylunio da â pherfformiad cwmni. Mae ecoddylunio yn broses rheoli dylunio strategol sy’n ymwneud ag isafu effaith cylch oes cynhyrchion a gwasanaethau (e.e. ynni, deunyddiau, dosbarthu, pecynnu a thriniaeth diwedd oes). Mae hyn yn cynnwys asesu, blaenoriaethu ac yna ddylunio er mwyn cael gwared ar broblemau neu ddylunio atebion newydd. Gall yr atebion hyn amrywio o enwi deunyddiau adnewyddadwy, torri i lawr ar yr ynni a ddefnyddir hyd at greu model busnes newydd. Ecoddylunio = dylunio da = ymarfer busnes da Mae ecoddylunio’n ystyried hefyd effeithiau cymdeithasol cynhyrchu a defnyddio cynhyrchion a gwasanaethau, gan gyfrannu’n sylweddol i ddatblygu cynaliadwy. Drwy herio’r status quo, mae gan ecoddylunio rôl allweddol yn y symud yn fyd-eang i gyfeiriad economi fwy cynaliadwy. Yn syml, mae ecoddylunio yn ddylunio da ac yn ymarfer busnes da drwy fabwysiadu dull syniadau cylch oes holistig, sy’n ymestyn y weledigaeth ddylunio y tu hwnt i ffiniau traddodiadol cynhyrchu a defnyddio.
Dulliau EcoddylunioMae Syniadau Cylch Oes yn golygu bod rhaid ystyried effeithiau cylch oes llawn cynhyrchion, y pecynnu neu’r gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys echdynnu deunyddiau, cynhyrchu, dosbarthu, adwerthu, y defnydd a wneir, a’r diwedd oes. Gall cwblhau Asesiad Cylch Oes gymharu opsiynau dylunio gwahanol fel y gellir dewis yr opsiwn lleiaf niweidiol. Lleihau effaith negyddol cynnyrch ar yr amgylchedd, er enghraifft drwy gael gwared ar ddeunyddiau neu gemegolion peryglus, heb amharu ar y dyluniad. Ail-ddiffinio cynnyrch neu wasanaeth i gael ateb sy’n dderbyniol yn fasnachol ac sy’n gynaliadwy, er enghraifft drwy ystyried ai car yw’r ateb gorau er mwyn symud o A i B.
|