Dyma fersiwn Gymraeg gwefan EDC.
English

Am EDC

Mae’r ganolfan Ecoddylunio (EDC) yn sefydliad ymchwil cymhwysol â’i nod yw meithrin medrau a galluoedd er mwyn gweithredu ecoddylunio effeithiol. Yn ddiweddar dynodwyd EDC yn Ganolfan Arbenigedd gan Lywodraeth y Cynulliad ac fe’i cydnabyddir yn awdurdod ac yn gronfa wybodaeth ar gyfer ecoddylunio yng Nghymru.

Cefnogwyd sefydlu EDC gan Lywodraeth y Cynulliad yn rhan o’i hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy. 
 

Ein Cenhadaeth

Nod EDC yw ysbrydoli ac arwain mewn ffordd ragweithiol Lywodraeth y Cynulliad, sefydliadau’r sector cyhoeddus ac addysg uwch er mwyn gweithredu ecoddylunio effeithiol mewn diwydiant yng Nghymru. Gwneir hyn drwy hyrwyddo rhannu gwybodaeth a phrofiad mewn ffordd agored drwy gynnig ffordd newydd ac onest o feddwl.
 

Ein Gweledigaeth

Y bydd Cymru’n wlad sy’n cael ei harwain gan ecoddylunio sydd ag enw da yn rhyngwladol, ag ecoddylunio’n rhan annatod o werth craidd cystadleuol a chynaliadwy o fewn pob un o strategaethau perthnasol y llywodraeth a’r gwasanaethau cymorth, diwydiant, y gymuned ddylunio ac addysg uwch.


Ein Polisi

Cydnabod ein cyfrifoldeb cymdeithasol ac amgylcheddol drwy:

  • ymdrechu’n gyson i leihau effaith ein gweithgareddau bob dydd ar yr amgylchedd
  • cynorthwyo sefydliadau sydd o’r un meddwl â ni i gyrraedd eu nodau
  • ymgymryd â gwaith gwirfoddol â’r trydydd sector

 

 

Mae staff EDC yn gyflogeion Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC) sy’n rheoli ac yn gweinyddu’r cyllid.


Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0
Dyluniwyd gan www.kutchibok.co.uk
© Y Ganolfan Ecoddylunio 2009