|
|
Ein Partner Brifysgolion
Mae’n dda iawn gan EDC gael gweithio mewn partneriaeth â phob un o’r prifysgolion yng Nghymru sy’n cynnig cyrsiau dylunio cynhyrchion i israddedigion. Rydyn ni o’r farn bod y cydweithredu hwn yn llwyddiant mawr ac yn gosod cynsail gwych.
|
Prifysgol Bangor
Mae’r Ysgol Addysg yn cynnig BSc (Anrh) Dylunio a Thechnoleg sydd â’i ffocws ar Ddylunio a Chynhyrchu Cynhyrchion. Mae ei myfyrwyr yn ennill enw da yn gynyddol am gynhyrchu gwaith o safon uchel iawn sydd wedi’i arddangos yn genedlaethol ac wedi denu llawer o sylw’r cyfryngau.
|
 |
Prifysgol Morgannwg
Addysgwyd BSc (Anrh) Dylunio Cynhyrchion a Thystysgrif Sylfaen Dylunio Cynhyrchion gan Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd. Cafodd y myfyrwyr eu hannog i ddatblygu’r gallu i feddwl yn greadigol ac i herio syniadau confensiynol. Mae’r cyrsiau hyn yn cael eu hail-lunio.
|

|
Prifysgol Fetropolitan Abertawe
Mae Prifysgol Fetropolitan Abertawe yn cynnig dau gwrs dylunio cynhyrchion. Mae ffocws y rhaglen BA (Anrh) Dylunio Cynhyrchion ar agweddau pobl-ganolog dylunio cynhyrchion. Mae’r rhaglen BSc (Anrh) yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r galluoedd deallusol i gael ymgymryd â dylunio a datblygu cynhyrchion newydd sy’n seiliedig ar ddeall egwyddorion gwyddonol a thechnolegol yn glir.
|
 |
Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC)
Mae Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn cynnig BA a BSc (Anrh) Dylunio Cynhyrchion. Mae’r cyrsiau tair blynedd yn cynnwys prosiectau ‘byw’ gyda sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol megis Dyson, Linpac, GUL International, Addis Housewares, Hermann Miller a’r BBC. Yn ddiweddar cafodd y cwrs ei osod yn y pump gorau ar gyfer Dylunio Cynhyrchion yn y DU ac mae’r myfyrwyr wedi ennill cystadlaethau pwysig megis cystadlaethau’r RSA (Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau) a Corus.
|
|