Addysg
Amcan tymor hir EDC ar gyfer Addysg uwch yw:
“Ymhen 5 i 10 mlynedd bydd pob myfyriwr fydd â gradd mewn dylunio yng Nghymru yn hyddysg o ran syniadau ac ymarfer ecoddylunio a chynaladwyedd. Bydd y graddedigion proffesiynol hyn yn mynd â’r sgiliau a’r wybodaeth yma i mewn i ddiwydiant ac felly’n cyfrannu i ddatblygu cynaliadwy yng Nghymru a thu hwnt”
Mae cynnig cefnogaeth i sefydliadau addysg uwch yn bwysig o ran meithrin gallu a datblygu sgiliau ar gyfer ecoddylunio yng Nghymru. Mae yna draddodiad hir o addysg gynaliadwy ac ecoddylunio yn perthyn i nifer o brifysgolion rhyngwladol blaengar. Ond yn y DU pwysleisiwyd gan y Cyngor Cyllido Addysg Uwch yn Lloegr (HEFCE)1 a Chyngor Dylunio’r DU 2 fod gweu cynaladwyedd i’r cwricwla prif-ffrwd yn parhau i fod yn her i lawer o addysgwyr dylunio. Mae gwir angen am ddeunyddiau ac adnoddau addysgu dibynadwy ar gyfer ecoddylunio.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae EDC wedi mynd i’r afael â’r her yma drwy weithio mewn partneriaeth â’r arweinwyr cyrsiau o’r pedair prifysgol yng Nghymru sy’n cynnig graddau mewn dylunio cynhyrchion. Y nod ar y cyd yw cynnig llwyfan lle y gellir rhannu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen er mwyn prif-ffrydio materion ecoddylunio a chynaladwyedd o fewn y cwricwla presennol.
Dull EDC
Mae dull EDC wedi cynnwys pedair elfen sylfaenol:
- llwyfan lle y gall arweinwyr cyrsiau addysg dylunio cynhyrchion yng Nghymru drafod materion sy’n ymwneud â Datblygu Cynaliadwy
- adnodd addysgu ecoddylunio wedi’i deilwra sy’n adlewyrchu gwahanol anghenion y prifysgolion
- 'hyfforddi hyfforddwyr’ i helpu i feithrin gwybodaeth ecoddylunio yr addysgwyr
- darparu cymorth uniongyrchol i fyfyrwyr ar ffurf darlithoedd a chynhorthwy â thraethodau
Mae pob un o’r prifysgolion yn treialu’r adnodd addysgu ar ecoddylunio a datblygu cynaliadwy a gafodd ei ddatblygu ar y cyd. Mae adborth oddi wrth y pedair prifysgol yn dal i fod yn bositif iawn. Yn ystod y misoedd nesaf bydd EDC yn archwilio sut i rannu’r adnoddau addysgu i gynulleidfa ehangach.
Mae EDC wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau a chyfarfodydd ar gyfer darlithwyr y partner-brifysgolion hefyd. Dyma’r prif ddigwyddiadau:
- digwyddiad ‘Lansio Addysg’ a gynhaliwyd ym Mehefin 2007 i ddechrau’r cydweithio
- gweithdy 'Diwrnod Addysg Dylunio ar gyfer Cynaladwyedd: Deialogau mewn Ymarfer' a gynhaliwyd ym Mai 2008. Yn rhan o’r digwyddiad, cynhaliwyd sesiwn hyfforddi/gwybodaeth ar addysg dylunio cynaliadwy gan Dr. Emma Dewberry sy’n ymarferydd allanol
Drwy weithio gyda’r prifysgolion, daeth nifer o faterion i’r amlwg fu’n fodd i oleuo gweithgareddau EDC. Ymhlith y rhain mae:
- canfyddiadau gwahanol ar gynaladwyedd
- creu cydweithrediad rhwng y prifysgolion ynghyd â’r lefelau ymddiriedaeth a chymorth priodol
- datblygiad proffesiynol parhaus
- risg tybiedig o gyfyngu ar greadigrwydd
Mae yna lawer her o’n blaenau ond mae EDC yn ffyddiog y bydd yn bosib hwyluso’r newidiadau angenrheidiol drwy weithio mewn ffordd fydd yn meithrin gallu. Mae EDC yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda’r prifysgolion yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.
_____________________________________________________________________________________
1: Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (2005) Sustainable Development in Higher Education: Current Practice and Future Developments Adroddiad i’r Academi Addysg Uwch, a baratowyd gan Dawe, G. Jucker, R. a Stephen Martin.
2: Cyngor Dylunio (2002) Design & Sustainability: A Scoping Report for the Sustainable Design Forum, a baratowyd gan Richardson, J. Irwin, T. a Sherwin, C.
|